Rhif y ddeiseb: P-06-1158

Teitl y ddeiseb: Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth

Testun y ddeiseb:

Gydag un o bob pump o bobl yma yng Nghymru yn byw gydag anabledd yn ôl SYG, ni fu erioed yn bwysicach i Gymru ddod yn genedl wirioneddol gynhwysol i'w holl ddinasyddion. Rydym am i Gymru fod y wlad ddatganoledig gyntaf i gael ei Gweinidog anabledd pwrpasol ei hun. Gyda gweinidog pwrpasol yn canolbwyntio ar anabledd, gallwn gymryd camau brasach tuag at system gyflogaeth decach, creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr anabl a chynnig mwy o gymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

 

 

 


1.     Cefndir

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei Gabinet newydd ar 13 Mai 2021. Ni chafodd Gweinidog anabledd penodol ei benodi. Mae’r cyfrifoldeb dros strategaeth a pholisi ynghylch anabledd wedi’i ysgwyddo gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fel rhan o’i chyfrifoldebau dros gydraddoldeb a hawliau dynol.

Mae gan Lywodraeth yr Alban Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol, sydd â chyfrifoldebau tebyg i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth yr Alban Weinidog dros Gydraddoldeb a Phobl Hŷn hefyd, sydd hefyd ag anabledd yn rhan o’i chylch gwaith.

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig Weinidog Gwladol dros Bobl Anabl o fewn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae cylch gwaith y Gweinidog hwn yn cynnwys cymorth ar draws y Llywodraeth ar gyfer pobl anabl, strategaeth adrannol ar gyfer pobl anabl, diwygio lwfansau i bobl anabl, a strategaeth waith ac iechyd i bobl anabl o fewn yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ar hyn o bryd, mae gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon Adran Gymunedau sy’n gyfrifol am faterion anabledd.

Mae yna esiamplau o wledydd ledled y byd sydd â Gweinidogion neu Ysgrifenyddion Cabinet sydd â chyfrifoldeb penodol dros faterion anabledd. Er enghraifft, mae gan Lywodraeth Seland Newydd Swyddfa dros faterion anabledd a Gweinidog dros faterion anabledd. Mae gan Lywodraeth Iwerddon Weinidog Gwladol sy’n gyfrifol am faterion anabledd ar draws dwy adran, sef yr Adran Iechyd a’r Adran Plant, Cydraddoldeb, Anabledd, Integreiddio ac Ieuenctid.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl sy’n cynnwys rhanddeiliaid ac sy’n rhoi cyngor i’r Llywodraeth ar faterion anabledd. Mewn datganiad ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd Jane Hutt AS, y Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd, ei bod wedi cadeirio cyfarfod o’r grŵp hwn ar chwe achlysur ers dechrau’r pandemig.

 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Er bod materion anabledd wedi’u trafod yn rheolaidd yn Senedd Cymru, nid oes unrhyw ddadleuon penodol wedi’u cynnal ynghylch penodi Gweinidog anabledd.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn y gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol na fydd y papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.